agw. Deuteronomium 30

Hosea 14

Troi yn ôl ar yr Arglwydd

1O Israel, tro yn ôl at yr Arglwydd dy Dduw. a Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. 2Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau'n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. 3Dydy Asyria ddim yn gallu'n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‛ein duwiau‛ ar y delwau wnaethon ni byth eto. Arglwydd, dim ond ti sy'n garedig at yr amddifad!”

Yr Arglwydd yn addo maddau

4“Dw i'n mynd i'w gwella o'u gwrthgilio,
a'u caru nhw'n ddiamod.
Dw i'n mynd i droi cefn ar fy nig.
5Bydda i fel gwlith i Israel –
bydd hi'n blodeuo fel saffrwn,
a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus
14:5 fel coed Libanus Hebraeg, “fel Libanus”, sy'n cyfeirio, mae'n debyg, at goed cedrwydd enwog Libanus.
.
6Bydd ei blagur yn tyfu;
bydd yn hardd fel coeden olewydd,
a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus.
7Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod.
Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu;
bydd yn enwog fel gwin Libanus.
8Fydd gan Effraim
14:8 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
ddim i'w wneud ag eilunod byth eto!
Bydda i'n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano.
Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd,
bydda i'n rhoi ffrwyth i chi drwy'r flwyddyn.”

Her i'r sawl sy'n darllen y broffwydoliaeth

9Pwy sy'n ddoeth? Bydd e'n deall.
Pwy sy'n gall? Bydd e'n gwybod.
Mae ffyrdd yr Arglwydd yn iawn –
bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn,
ond y rhai sy'n gwrthryfela yn baglu.
Copyright information for CYM